Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at midday
Statement: Updated at 12pm on Sunday 17 January
2021 Dr
Eleri Davies, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
response at Public Health Wales, said: “The
number of positive Coronavirus cases remains extremely high in Wales and is
cause for serious concern, due to the impact on NHS Wales services. “All of
Wales remains in lockdown. We ask that the public adopts the same mindset for
this lockdown as they did in March 2020. We understand that people are fatigued
but because the new, more infectious variant of coronavirus is circulating
across Wales it is vital that we all keep to the lockdown restrictions and do
not meet other people. “This
means that you must stay at home. If exercising outdoors, please do this alone
or with members of your household or support bubble only. Shop online, but if
you do need to visit essential retail then do this alone, if possible, to
minimise numbers of people in retail spaces, and avoid stopping to chat with
people outside your household. If you must leave home keep your distance,
wash your hands regularly, and wear a face mask when required according to the
regulations. “Public
Health Wales urges everyone to follow the rules, to avoid transmission of
Coronavirus and to protect everyone in our communities, including the most
vulnerable. “Public
Health Wales is working with UK partners to investigate and respond to the new
variant of coronavirus identified in Wales. The new variant is easier to spread
and the public should remain highly vigilant in measures to prevent
transmission including maintaining social distancing, regularly handwashing and
wearing of face coverings. Though the new variant is more infectious, there is
no evidence that it leads to more severe disease. “From
4am on Monday 18 January, if you intend to travel to England, Scotland, or
Wales, including UK nationals returning home from travel abroad, you must
provide evidence of a negative COVID-19 test result taken up to 3 days before
departure. “Under
current UK COVID-19 restrictions, you must stay at home. You must not leave
home or travel, including internationally, unless you have a legally permitted
reason to do so. “If you
are due to travel out of the UK, please be aware of the changing situation and
keep an eye on the FCO website for up to date details. “The
roll-out of the Pfizer BioNTech and AstraZeneca Coronavirus vaccines continues
in Wales with the the recently Medicines and Healthcare products Regulatory
Agency (MHRA) approved Moderna vaccine to be incorporated into the programme
soon. “Daily
vaccination data is published on the Public Health Wales dashboard. The
headline summary includes daily cumulative numbers of individuals who have
received a first and second vaccination dose. Public Health Wales is working
closely with the Welsh Government as they deploy Coronavirus vaccinations
through local health boards. Welsh Government is leading on the deployment of
the vaccine in Wales. “Vaccinating
the adult population of Wales, to protect people from severe disease, is a
significant task, and the vaccine will take time to reach everyone. The
effects of the vaccines may not be seen nationally for some time, and we must
continue to follow the advice on keeping Wales safe. “The
Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) has issued a short statement outlining
the case for optimising the existing vaccine programme within the UK to achieve
maximum short term impact. The JCVI advises initially prioritising delivery of
the first vaccine dose as this is highly likely to have a greater public health
impact in the short term and reduce the number of preventable deaths from
COVID-19. “Given
the data available, and evidence from the use of many other vaccines, Public
Health Wales fully supports the JCVI advice to increase a maximum interval
between the first and second doses of 12 weeks for both Pfizer BioNTech and
AstraZeneca vaccines. “Members
of the public should not phone your GP, pharmacy or hospital asking when they
will get a vaccine. When someone is in one of the groups eligible for the
vaccine, they will be invited to attend a dedicated clinic which will have been
set up to ensure patient safety and that of the healthcare professionals. “If you
or a member of your household develop a cough, fever or change in sense of
taste or smell, you must self-isolate immediately and book a free Coronavirus
test, either by calling 119 or by clicking here. Datganiad:
Diweddarwyd 12yh Dydd Sul 17 Ionawr 2021 Dywedodd Dr Eleri Davies, y Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr
ymateb i'r achosion o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus
Cymru: “Mae nifer yr achosion positif o’r Coronafeirws yn parhau i fod yn
eithriadol uchel yng Nghymru ac mae’n destun pryder difrifol oherwydd yr
effaith ar wasanaethau GIG Cymru. “Mae'r cyfyngiadau symud yn parhau ledled Cymru gyfan. Gofynnwn i’r
cyhoedd fabwysiadu’r un meddylfryd ar gyfer y cyfyngiadau symud cyfredol ag y
gwnaethant ym mis Mawrth 2020. Deallwn fod pobl wedi cael digon ond, oherwydd
bod amrywiolyn newydd, mwy heintus o’r Coronafeirws ar led ar draws Cymru,
mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn glynu wrth y cyfyngiadau symud ac nad ydym
yn cwrdd â phobl eraill. “Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi aros gartref. Os byddwch yn gwneud
ymarfer corff yn yr awyr agored, gwnewch hynny ar eich pen eich hun neu gydag
aelodau o’ch aelwyd neu’ch swigen gefnogi yn unig. Dylech siopa ar-lein, ond os
oes angen i chi ymweld â mannau manwerthu hanfodol, gwnewch hynny ar eich pen
eich hun os yn bosibl, er mwyn lleihau nifer y bobl mewn mannau manwerthu, a
dylech osgoi stopio i siarad â phobl y tu allan i’ch aelwyd. Os oes rhaid i chi
adael eich cartref, cadwch eich pellter, golchwch eich dwylo’n rheolaidd a
gwisgwch fasg wyneb pan fo angen, yn unol â’r rheoliadau. “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i gadw at y rheolau, i osgoi
trosglwyddo’r Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein cymunedau, gan gynnwys y
rhai mwyaf agored i niwed. “Mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU i ymchwilio ac i ymateb
i’r amrywiolyn newydd o’r Coronafeirws a nodwyd yng Nghymru. Mae’r amrywiolyn
newydd yn lledaenu’n haws a dylai’r cyhoedd gadw at y mesurau’n ofalus er mwyn
atal trosglwyddiad, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n
rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb. Er bod yr amrywiolyn newydd yn fwy
heintus, nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn arwain at afiechyd mwy difrifol. “O 4am dydd Llun 18 Ionawr ymlaen, os ydych chi’n bwriadu teithio i
Gymru, Lloegr neu’r Alban, gan gynnwys gwladolion y DU sy’n dychwelyd adref o
deithio dramor, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o brawf COVID-19 negatif a gafwyd
hyd at 3 diwrnod cyn
gadael. “O dan gyfyngiadau COVID-19 presennol y DU, rhaid i chi aros gartref. Ni
ddylech adael eich cartref na theithio, gan gynnwys yn rhyngwladol, oni bai fod
gennych chi reswm a ganiateir yn gyfreithiol dros wneud hynny. “Os ydych chi i fod i deithio allan o’r DU, rhaid i chi fod yn ymwybodol
o’r sefyllfa fel mae’n newid a chadw llygad ar wefan yr FCO am y manylion
diweddaraf. “Mae’r gwaith o
gyflwyno’r brechlynnau Coronafeirws Pfizer BioNTech ac AstraZeneca yn parhau
yng Nghymru, a chaiff y brechlyn Moderna sydd wedi’i gymeradwyo’n ddiweddar gan
yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ei
gynnwys yn y rhaglen maes o law. “Cyhoeddir data
brechu dyddiol ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd crynodeb y pennawd
yn cynnwys nifer cronnus dyddiol o unigolion sydd wedi derbyn dos cyntaf ac ail
ddos o’r brechlyn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda
Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddarparu brechiadau Coronafeirws drwy’r byrddau
iechyd lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o ddarparu’r brechlyn
yng Nghymru. “Mae brechu
oedolion Cymru er mwyn amddiffyn pobl rhag afiechyd difrifol yn dasg sylweddol
a bydd yn cymryd amser i frechu pawb. Efallai na fydd effeithiau’r brechlynnau
i’w gweld yn genedlaethol am beth amser, a rhaid i ni barhau i ddilyn y cyngor
ar gadw Cymru’n ddiogel. “Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad byr yn amlinellu’r achos dros
optimeiddio’r rhaglen frechu bresennol yn y DU i gael yr effaith tymor byr
fwyaf posibl. Mae'r JCVI yn
cynghori blaenoriaethu cyflwyno'r dos cyntaf o’r brechlyn i ddechrau gan fod
hyn yn debygol iawn o gael mwy o effaith ar iechyd y cyhoedd yn y tymor byr a
lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i COVID-19 y gellir eu hatal. “O ystyried y data
sydd ar gael, a'r dystiolaeth o'r defnydd o lawer o frechlynnau eraill, mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llwyr gefnogi cyngor JCVI i gynyddu'r cyfnod mwyaf
rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos o 12 wythnos ar gyfer y brechlynnau Pfizer
BioNTech ac AstraZeneca. “Ni ddylai aelodau’r cyhoedd ffonio eu meddyg teulu, fferyllfa nag
ysbyty yn gofyn pryd y byddant yn cael brechlyn. Pan fydd rhywun yn un o'r
grwpiau sy'n gymwys i gael y brechlyn, fe'u gwahoddir i fynd i glinig pwrpasol
a fydd wedi'i sefydlu i sicrhau diogelwch cleifion a gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol.
“Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu peswch, twymyn neu
newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu
prawf Coronafeirws am ddim naill ai drwy ffonio 119 neu drwy glicio yma.